Ein cyf/Our ref: MA/P/VG/2175/17


Dr Dai Lloyd AC

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA


4 Gorffennaf 2017



Annwyl Gadeirydd,

 

Diolch am eich llythyr dyddiedig 7 Mehefin 2017 yn gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am amryw o argymhellion o adroddiad Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Mae fy ymatebion i bob un o'r pwyntiau a godwyd gennych i'w gweld isod.

 

Argymhelliad 3. Dylai Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau bod trefniadau ar gael i werthuso pa mor effeithiol yw holl ymgyrchoedd Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud ag iechyd dros y gaeaf, gan gyhoeddi’r gwersi a ddysgir yn fuan. Dylai hefyd sicrhau bod trefniadau ar gael i sicrhau bod yr holl system yn dysgu o’r gwaith gwerthuso hwn.

 

Yr ymgyrch Dewis Doeth yw prif ddull Llywodraeth Cymru o rannu negeseuon â dinasyddion ar sut i baratoi yn y ffordd orau ar gyfer cyfnod y gaeaf a pha wasanaeth i'w ddefnyddio ar gyfer eu hanghenion iechyd dros y gaeaf. Yn ôl y dystiolaeth a gasglwyd eleni, mae negeseuon yn cyrraedd y cyhoedd ynglŷn â chamau y gallant eu cymryd i ofalu ar ôl eu hunain a defnyddio'r Adran Argyfwng yn briodol. Ers i'r ymgyrch gael ei lansio yn 2011-12, mae cynnydd o 13% wedi bod yn lefel y presenoldeb mewn Unedau Mân Anafiadau a chwymp o tua 17% yn lefel y presenoldeb yn yr Adran Argyfwng ymhlith y garfan oedran 17-24.

 

Byddwn yn gwerthuso pob ymgyrch gyfathrebu yn derfynol yn erbyn yr amcanion a bennwyd ar ddechrau'r ymgyrch ac, yn ogystal â hynny, cafodd ymchwil newydd ei chomisiynu ar ddiwedd yr ymgyrch flynyddol Dewis Doeth ym mis Mawrth 2017 fel rhan o Arolwg Omnibws Cymru.

 

 

 

 

Mae disgwyl i adroddiad yn trafod y canfyddiadau manwl gael ei gyhoeddi yn yr haf  2017 ar wefan Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru. Yn unol â phrotocol y wefan, hyd nes iddynt gael eu cyhoeddi, dim ond fewnol y gellir defnyddio'r ffigurau tan iddynt gael eu cyhoeddi. Fodd bynnag, roedd y canfyddiadau cychwynnol yn gadarnhaol a byddwn yn defnyddio'r un cwestiynau ar ddiwedd yr ymgyrch nesaf i fesur ein cynnydd. Bydd y canfyddiadau hefyd yn cael eu defnyddio i lywio'r ymgyrch ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'r gwaith cynllunio eisoes wedi dechrau a bydd hyn yn cynnwys meithrin cysylltiadau â rhanddeiliaid, a'u cynnwys, a bydd ymgyrchoedd cysylltiedig yn cael eu cynnal hefyd, gan gynnwys gan Age Cymru (Lles drwy Wres) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (Curwch Ffliw)

 

Bydd y canfyddiadau a'r cynlluniau a fydd yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer Dewis Doeth y gaeaf nesaf yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod grŵp llywio'r Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Heb Ei Drefnu er mwyn ystyried sut y gellir datblygu negeseuon ymhellach ar gyfer y gaeaf nesaf.

 

Argymhelliad 4. Dylai Ysgrifennydd y Cabinet adrodd yn ôl i ni ddiwedd y chwarter nesaf i roi manylion y cynnydd sydd wedi'i wneud i gyrraedd y targedau ar gyfer buddsoddiad ychwanegol Llywodraeth Cymru o £50 miliwn tuag at ymdopi â phwysau yn ystod y gaeaf eleni.

 

Cafodd y £50 miliwn ei ddosbarthu i fyrddau iechyd yng Nghymru (y ceir y manylion yn y tabl isod) er mwyn helpu i gynnal gwell perfformiad dros gyfnod y gaeaf. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod y cyllid ond yn cael ei ddefnyddio i wella perfformiad, cafodd £5.1 miliwn ei adfachu oddi wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar ddiwedd y flwyddyn gan nad oedd wedi cyflawni yn erbyn y cynlluniau y cytunwyd arnynt.

 

Bwrdd Iechyd Lleol

      Wedi’i rannu yn ôl cyfran deg

          (£m)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

9.33

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

9.97

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

11.09

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

7.50

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

5.80

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

6.31

Cymru Gyfan

50.00

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dros gyfnod y gaeaf, roedd perfformiad o ran amser aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth yn well nag yr oedd y flwyddyn flaenorol:

 

-       ddiwedd mis Mawrth 2017 roedd y perfformiad 26 wythnos yn 88%, sydd 1.2 pwynt canran yn uwch na mis Mawrth 2016

-       roedd y rhifau 36 wythnos 28% yn llai na mis Mawrth 2016 a'r gorau a welwyd ers mis Mawrth 2014

-       roedd amseroedd aros am brofion diagnostig wyth wythnos ar y lefel isaf ers chwe blynedd

-       roedd perfformiad 62 diwrnod canser y gorau a welwyd ers mis Tachwedd 2014.

 

O ran triniaethau wedi'u gohirio, roedd 564 (4%) yn llai o ohiriadau ar ddiwrnod cynnal triniaeth arfaethedig neu'r diwrnod cyn hynny dros gyfnod y gaeaf 2016-17 na'r gaeaf blaenorol, ac roedd y gyfran o gleifion y gohiriwyd eu triniaeth oherwydd diffyg gwely, naill ai ar y diwrnod neu'r diwrnod cyn hynny, 965 (38%) yn is nag yn y gaeaf 2015-16.

 

Roedd ymateb ambiwlansys, trosglwyddo cleifion a pherfformiad yn erbyn safonau pedair a deuddeg awr yn gyffredinol well nag yn ystod 2015-16 er gwaethaf, ar brydiau, lefelau o alw nas gwelwyd mo'u tebyg o'r blaen. Er enghraifft, ymatebodd y gwasanaeth ambiwlans i 77.9% o alwadau Coch o fewn 8 munud (12.2% yn well na mis Mawrth 2016); bu gwelliant o 4.4% yn y perfformiad yn erbyn y targed 4 awr; bu cwymp o 27% yn y perfformiad yn erbyn y targed o 12 awr; a bu cwymp o 45% yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo cleifion o'r ambiwlans i'r ysbyty. Rwy'n dal i ddisgwyl gweld mwy o gadernid a gwelliant o ran perfformiad a chanlyniadau.

 

Adborth ar gyfer y Pwyllgor gan Goleg Brenhinol y Meddygon a'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys

 

Ym mis Chwefror, comisiynodd y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Heb Ei Drefnu, adolygiad o allu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i wrthsefyll pwysau'r gaeaf yn 2016-17. Mae'r adolygiad hwnnw wedi dod i ben erbyn hyn a bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn hir a fydd yn gymorth i'r gwaith cynllunio ar gyfer y gaeaf nesaf.

 

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon a'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r adolygiad. Roedd ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon yn awgrymu bod llawer o aelodau yn teimlo bod gwersi wedi cael eu dysgu ond roedd hefyd yn dweud yn glir bod gwaith i'w wneud o hyd i helpu i wella’r gallu i wrthsefyll pwysau ar gyfer y gaeaf nesaf. Roedd y Coleg yn glir hefyd y dylid cynnwys clinigwyr yn gynnar yn y broses gynllunio. Fel rydych yn gwybod, mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn aelod o Fwrdd y Rhaglen Gofal heb Ei Drefnu.

 

Yn yr un modd, teimlai'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys fod ymdrechion pendant wedi cael eu gwneud i wella gallu i wrthsefyll pwysau'r gaeaf dros y blynyddoedd diwethaf, er bod pwysau ar wasanaethau o hyd, a nododd amryw o feysydd lle gellid gwella. Edrychodd yr adolygiad ar y dystiolaeth hon, ynghyd ag adborth gan gyrff proffesiynol, staff, cleifion ac arweinwyr systemau eraill wrth ddatblygu'r adroddiad a'r argymhellion i gefnogi gwelliannau ar draws y system gyfan. Ysgrifennodd Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i’r Byrddau Iechyd Lleol ym mis Ebrill i roi gwybod iddynt am y canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg er mwyn sicrhau nad oes unrhyw amser yn cael ei golli wrth baratoi ar gyfer y gaeaf nesaf.

 

 

 

Bwriedir cyhoeddi'r adroddiad fis Gorffennaf 2017 a byddaf yn rhannu copi â'r Pwyllgor yr adeg hynny.

 

Byddwn yn disgwyl i'r gwaith pwysig hwn gefnogi sefydliadau wrth iddynt gynllunio eu trefniadau. Bydd hyn yn sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu a chamau priodol yn cael eu cymryd i sicrhau ein bod yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf ac yn gwella ymhellach y gallu i wrthsefyll pwysau'r gaeaf, gan wneud hynny mewn modd sy'n gynaliadwy.

 

 

Yn gywir

 

 

Vaughan Gething AC/AM

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

 

Cc:  Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol